Cynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid / Derbynnydd (Achlysurol)
Gower College Swansea - Abertawe
This vacancy has expired.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn chwilio am Gynorthwyydd Gwasanaethau Cwsmeriaid achlysurol i weithio ar bob campws yn ôl yr angen. Yn bennaf, bydd y swydd yn cynnwys gweithio yn y derbynfeydd, gyda ffocws penodol ar weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf i gwsmeriaid mewnol ac allanol. Bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych i gwsmeriaid wyneb yn wyneb a thros y ffôn, gan hyrwyddo’r Coleg.
Byddwch yn gyfrifol am ddelio ag ymholiadau gan staff, myfyrwyr, busnesau a’r cyhoedd gan ddarparu gwasanaeth iddynt wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Byddwch hefyd yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol (yn ôl yr angen) megis ffeilio, llungopïo a rheoli post sy’n dod i mewn a phost sy’n mynd allan.
Bydd gennych brofiad o weithio mewn amgylchedd gwaith derbynfa/gwasanaeth cwsmeriaid ac yn meddu ar gymhwyster NVQ Lefel 2 (neu gymhwyster cyfatebol) perthnasol, ynghyd â chymwysterau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg (Graddau A-C).
Mae sgiliau siarad a gwrando Cymraeg lefel 2 yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, gyda ffocws ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid. Byddwn yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth mewn sgiliau Cymraeg. Byddwch yn barod i weithio’n hyblyg lle bo angen.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd ceisiadau Cymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc a disgwylir i holl staff y coleg lynu at yr ymrwymiad hwn. Gwneir penodiadau ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn ichi gofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Bydd penodiadau fel arfer yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog, gyda chynyddraddau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn benodol ar gwblhau 6 mis o wasanaeth).
You can find the latest vacancies on our search page.
Find a different jobThis vacancy has expired.