Darlithydd yn y Gymraeg

Gower College Swansea - Gorseinon

Reference: MAY20225840
Salary: £21,506.00 - £42,326.00 Per Annum
Category: Lecturing - Humanities, Creative & Visual Arts
Contract: Fixed Term - Full Time

This vacancy has expired.

Mae cyfle prin a chyffrous wedi codi i addysgu ein cwrs Cymraeg Ail Iaith Safon Uwch (AS ac A2) a’n rhaglenni ‘Cymraeg yn y Gweithle’, sy’n boblogaidd iawn ymhlith ein staff. Cyfradd pasio (A-C) ein cwrs safon uwch yw 100%, ac rydym yn chwilio am ymgeisydd dawnus i gynnal y safonau hyn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio dros gyfnod mamolaeth o fis Medi 2022 i fis Mawrth 2023.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad addysgu cynhwysfawr yn ddelfrydol o fewn amgylchedd AB, ac mi fydd yn hapus i gyflwyno darpariaeth ‘Safon Uwch’. Byddai meddu ar brofiad o ddarparu Bagloriaeth Cymru hefyd yn ddymunol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol, brwdfrydedd a chadernid a’r gallu i weithio’n dda ag amrywiaeth eang o alluoedd gwahanol. Mae parodrwydd i deithio o un campws i’r llall yn hanfodol.

Bydd y swydd hon yn weithredol yn ystod cyfnod Mamolaeth a bydd y contract yn dod i ben unwaith bydd deiliad y swydd yn dychwelyd (bydd rhannu’r swydd hon yn ddwy rôl rhan-amser yn cael ei ystyried).

 I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Jenny Hill, Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol: 01792 890790.

Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg. 

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

(Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar. )

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).

Benefits:
Hawl i gael gwyliau'r contract cenedlaethol ar sail, 5 diwrnod cau ac 8 gwyl banc, Cynllun Pensiwn Athrawon, amrywiaeth o fanteision i gyflogeion gan gynnwys cynlluniau aberthu cyflog, disgowntiau staff a pharcio am ddim.
Sorry, this vacancy has expired.

You can find the latest vacancies on our search page.

Find a different job
Posted on: Tue May 17 2022 Closing on: May 31, 2022

This vacancy has expired.

More about Gower College Swansea
Type: Further Education
Age Group: 16 - years
Gender: Mixed